Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

PAC(4) 05-12 – Papur 1

 

Papur Tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus  (20 Mawrth 2012) am Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Safon Ansawdd Tai Cymru

 

 Cyflwyniad

 

1. Fel rhan o'r strategaeth dai genedlaethol gyntaf i Gymru, a gyhoeddwyd yn 2002, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) fel safon y dylai pob cartref cymdeithasol ei chyrraedd erbyn 2012.

 

2. O dan SATC, mae disgwyl i bob cartref cymdeithasol:

• fod mewn cyflwr da

• bod yn saff ac yn ddiogel

• cael ei wresogi'n ddigonol, bod yn effeithlon o ran tanwydd a bod

  wedi'i inswleiddio'n dda

• cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes

• cael ei reoli'n dda (yn achos tai ar rent)

• bod wedi'i leoli mewn amgylchedd deniadol a diogel

• bod yn addas ar gyfer anghenion penodol y bobl sydd ar yr aelwyd

  (cyn belled ag y bo modd)

 

3. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar SATC, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2012. Mae'r adroddiad yn dwyn sylw at y ffaith bod ansawdd tai cymdeithasol yng Nghymru wedi gwella'n sylweddol yn sgil cyflwyno'r safon, ond mae hefyd yn nodi'n glir bod ffordd bell i fynd cyn cyrraedd nodau gwreiddiol SATC.

4. Cyn iddi ymateb yn ffurfiol i'r Adroddiad, mae'r Llywodraeth yn mynd ati yn y papur tystiolaeth hwn i nodi'r camau sydd ar y gweill eisoes i gryfhau'r system ac i fynd i'r afael â rhai o'r gwendidau a nodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

 Canfyddiadau'r Archwilydd Cyffredinol

5. Mae argymhellion yr adroddiad yn ymdrin â phum categori bras:i) Gwersi cyffredinol ar gyfer Llywodraeth Cymru ym maes datblygu polisïau, monitro a gwerthuso

ii) Monitro a chyflwyno adroddiadau ar gydymffurfiaeth â SATC

iii) Hyrwyddo a gwerthuso’r buddiannau ehangach a gyflawnir yn sgil gwaith yn ymwneud â SATC

iv) Newidiadau posibl i SATC

v) Nodi atebion i gartrefi na ragwelir y byddant yn cyrraedd SATC erbyn mis Mawrth 2017

 

i) Gwersi cyffredinol ym maes datblygu polisïau, monitro a gwerthuso

 

6. Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod gwersi i’w dysgu, o ran gwella gwaith datblygu polisi yn fwy cyffredinol, oddi wrth y modd yr aed ati'n wreiddiol i sefydlu system SATC. Byddwn yn ystyried yr argymhellion gwreiddiol fel rhan o'r gwaith sy'n mynd rhagddo bellach ar draws y llywodraeth i ddatblygu polisi mewn modd mwy effeithiol. O dan yr egwyddorion Sicrhau Canlyniadau, a fabwysiadwyd yn ddiweddar, mae'n ofynnol i'r rheini sy'n datblygu polisi lunio achosion busnes yn ystod gwahanol gamau'r gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau. Rhaid i'r achosion busnes hynny ddangos bod y polisi o dan sylw yn gydnaws â'r nodau polisi ehangach, a rhaid iddynt hefyd ddangos 'effaith' y polisi a'r 'costau' sy'n gysylltiedig ag ef, i Lywodraeth Cymru ac i'w phartneriaid cyflawni fel ei gilydd. Erbyn hyn, yr egwyddorion hyn yw arferion gweithredu safonol Llywodraeth Cymru. Byddai defnyddio'r egwyddorion hyn yn y ffordd briodol yn mynd i'r afael â'r argymhellion perthnasol yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. 

ii) Monitro a chyflwyno adroddiadau ar gydymffurfiaeth â SATC

 

7. Fel y nodir yn yr adroddiad, mae nifer o gamau wedi'u cymryd i wella'r modd yr eir ati i fonitro a yw landlordiaid yn gwneud cynnydd o ran cyrraedd SATC, ac mae'r gwaith hwnnw'n parhau. O 2005 ymlaen, roedd y monitro hwn mewn perthynas â chyrraedd SATC yn cael ei wneud drwy'r cynlluniau busnes a oedd gan awdurdodau lleol unigol ar gyfer eu cyfrif refeniw tai.  Sefydlwyd grŵp llywio yn 2009 i ystyried sut y gellid mynd ati i gasglu data mwy manwl, a threialwyd system fonitro ar gyfer awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn 2010. Cyhoeddwyd y canlyniadau ym mis Mawrth 2011.

8. Yn 2012, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno system fonitro newydd fwy cadarn i gasglu gwybodaeth fanwl am y cynnydd y mae landlordiaid yn ei wneud o ran cyrraedd SATC. Y bwriad yw cyhoeddi’r wybodaeth hon ar ffurf ystadegau swyddogol gan y llywodraeth. Mae hynny'n golygu bod angen i ni fod yn fwy trwyadl a sicrhau mwy o gysondeb wrth ddadansoddi, gan wneud hynny yn unol â'r safonau a osodir gan Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.  Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen eisoes i fwrw ymlaen â'r broses o roi'r system fonitro newydd hon ar waith, a bydd cynrychiolwyr landlordiaid yn aelodau o'r grŵp hwnnw.

 

9. Un o'r materion y mae'r gwaith hwn yn mynd i'r afael ag ef yw cynnig i wella'r dulliau a ddefnyddir i sicrhau bod landlordiaid yn atebol am gofnodi niferoedd y 'methiannau derbyniol' ac am baratoi adroddiadau ar wahân ynghylch y methiannau hynny. Fel y nodir yn glir yn yr adroddiad, mae yna achosion lle nad yw uwchraddio'n ddymunol nac yn ymarferol, weithiau oherwydd cyfyngiadau ffisegol yr anheddau neu oherwydd dymuniadau'r tenantiaid.

 

iii) Hyrwyddo a gwerthuso’r buddiannau ehangach a gyflawnir yn sgil gwaith yn ymwneud â SATC

10. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda landlordiaid i sicrhau bod cynifer o fanteision cymdeithasol ac economaidd ag y bo modd yn deillio o raglenni gwella tai, a bydd yn edrych ar ffyrdd o hyrwyddo'r manteision ehangach a fydd yn deillio o'r gwaith sydd eto i'w wneud mewn perthynas â SATC. Bydd hefyd yn ystyried ffyrdd o sicrhau bod y manteision hynny'n cael eu gwireddu.

 

 

11. Mae'n parhau i fod yn hanfodol bod darparwyr tai yn mynd ati i gaffael yn gymdeithasol i'r graddau mwyaf posibl, a hynny oherwydd eu bod yn gwario symiau sylweddol o arian cyfalaf ac oherwydd bod cyfleoedd adfywio yn gysylltiedig â'r gwaith y maent yn ei wneud. Mae Hyrwyddo i Ymrwymo (i2i) wedi chwarae rhan fawr hyd yma o ran bwrw ymlaen â'r agenda hon, gan wneud hynny drwy ddatblygu'r Pecyn Cymorth 'Gallu Gwneud' a thrwy gynnig cymorth helaeth ar draws y sector tai. Mae lle i i2i chwarae hyd yn oed mwy o ran yn y dyfodol wrth i Lywodraeth Cymru ymateb i'r her o sicrhau bod manteision cymunedol yn dod yn rhan annatod o raglenni gwariant eraill.  Mae'n gwneud y gwaith hwn ar y cyd â Gwerth Cymru.

 

iv) Newidiadau posibl i SATC

12. Codwyd y posibilrwydd o gyflwyno newidiadau i SATC yn yr adolygiad o dai fforddiadwy yng Nghymru, a gynhaliwyd yn 2008, ac yn y strategaeth dai, 'Gwella Bywydau a Chymunedau', a gyhoeddwyd yn 2010. Mae Llywodraeth Cymru yn sylweddoli y bydd gan lawer o sefydliadau ddiddordeb yn y modd y bydd yn bwrw ymlaen â'r mater hwn. Mae Gweinidogion o'r farn bod adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn tynnu sylw at y manteision a all ddeillio o safon  o'r math hwn.  Mae hefyd yn nodi'n glir fod canlyniadau ymarferol ac ariannol os nad yw'r safonau eu hunain yn glir neu os nad oes eglurder ynghylch sut y maent yn cael eu dehongli. Mae'n bwysig ein bod yn ystyried y negeseuon sydd yn yr adroddiad hwn ac yn eu deall yn llawn cyn mynd ati i benderfynu a ddylid cyflwyno unrhyw newidiadau ai peidio. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod mor ymrwymedig ag erioed i sicrhau bod y Safon yn cael ei chyrraedd ac i sicrhau bod buddsoddiad mewn gwella tai yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar ansawdd bywydau pobl. 

 

v) Nodi atebion i gartrefi na ragwelir y byddant yn cyrraedd SATC erbyn mis Mawrth 2017

13. Mae'r adroddiad yn nodi na fydd rhai landlordiaid yn llwyddo i gyrraedd SATC erbyn y dyddiad targed o 2012. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r landlordiaid hynny i'w helpu i wneud mwy o gynnydd yn hyn o beth ac mae'n cydnabod bod angen pwyso a mesur y sefyllfa yn yr awdurdodau hynny lle mae tenantiaid wedi pleidleisio yn erbyn trosglwyddo stoc.  Byddwn yn gweithio gyda chymdeithasau tai hefyd drwy'r Fframwaith Rheoleiddiol newydd i gytuno ar ganlyniadau cyflawni derbyniol o ran cyrraedd SATC.

 

14. Mae'r trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnal gyda Llywodraeth y DU am y posibilrwydd o setliad ariannol diwygiedig ar gyfer System Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai yn berthnasol i'r gwaith pellach y byddwn yn ei wneud yn y maes hwn. Newydd ddechrau y mae'r trafodaethau hyn ond rydym yn gobeithio y byddant yn dylanwadu ar ein hymateb ffurfiol i'r adroddiad ac yn cynorthwyo landlordiaid i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cyrraedd SATC.

 

15. Bydd y Papur Gwyn y bwriedir ei gyhoeddi ym mis Mai yn ystyried SATC hefyd.  

 

16. Er bod llawer wedi'i wneud i wella'r tai cymdeithasol sydd gennym yma yng Nghymru, rhyn araf o hyd yw'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran cyrraedd SATC. Wrth i ni anelu at sicrhau gwelliannau pellach i ansawdd ein tai cymdeithasol yn y dyfodol, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddysgu gwersi o sut yr aed ati hyd yma i ddatblygu SATC.